Mae aelodau Capel y Rhos yn cyfarfod mewn adeilad newydd a agorwyd ym mis Medi 2008. Daeth capeli Bethlehem a Hermon, Bae Colwyn a Nasareth, Mochdre at ei gilydd i greu’r eglwys newydd.
Mae croeso cynnes ichi ymuno â ni.
- Cynhelir gwasanaeth am 10.30 bob bore Sul.
- Cynhelir oedfa lai ffurfiol am 3.00 ar un Sul bob mis.
- Trefnir Sgwrs a Phaned ar y 4ydd dydd Iau o bob mis.
Trefnir amryw o gyfarfodydd eraill ar y cyd gydag eglwysi eraill.
Mae Capel y Rhos yn bod er mwyn dathlu cariad Duw yng Nghrist a thystio iddo:
- mewn addoliad
- mewn gofal a gwasanaeth
- mewn cenhadaeth.
