Ymateb i Drychinebau Moroco a Libya
Cafwyd casgliad arbennig ar 24 Medi. Byddwn yn anfon £315 i Apêl Moroco’r Groes Goch a £315 i Apêl Libya Cymorth Cristnogol.
Suliau mis Awst
Cafwyd Oedfaon Undebol bendithiol yn ystod mis Awst o dan drefniant Cyngor Eglwysi Colwyn. Casglwyd cyfanswm o £446 i’r Banc Bwyd; Hosbis Dewi Sant; Marie Curie a Gofal Cancr Macmillan.
Pererindod yr Ofalaeth
Ar Sul hyfryd o braf ddechrau mis Mehefin cafwyd pererindod yr Ofalaeth. Oedfa o dan ofal ein Gweinidog yng Nghapel Pensarn gafwyd ar ddechrau’r diwrnod. Cafwyd cinio ardderchog ym mwyty Tal y Cafn cyn mynd i ymweld ag eglwys Caerhun. Ymlaen, wedyn, i Eglwys Bach i ymweld â’r eglwys yno a gorffen yng nghapel Ebeneser lle mae’r pulpud yn gofeb i’r Parch John Evans. Ar derfyn y daith fe wahoddodd y Gweinidog bawb i’w chartref am baned a sgon. Diolch i Helen a Nerys am drefnu pob dim mor hwylus.
Wythnos Cymorth Cristnogol
Cynhaliwyd Bore Coffi llwyddiannus ar 19 Mai ac roedd yr elw yn £460. Roedd casgliad y Sul dilynol yn £637 y cyfan i gefnogi gwaith Cymorth Cristnogol. Diolch i bawb am eu haelioni.
Cymanfa Ganu
Ar 12 Ebrill cafwyd Cymanfa Ganu lwyddiannus yn y capel gyda Band Pres Beulah. Roedd y casgliad ar y noson yn £320 ac ychwanegwyd at y swm hwnnw o’r Gronfa Elusen er mwyn anfon £500 i Ambiwlans Awyr Cymru.
Apêl brys DEC / Cymorth Cristnogol Twrci Syria Chwefror 2023
Cafwyd ymateb ardderchog i’r apêl am gymorth i leddfu’r angen yn dilyn y daeargrynfeydd yn Twrci a Syria. Casglwyd £786 dros ddau Sul c ychwanegwyd £214 o’r Gronfa Elusen i wneud cyfanswm o £1,000.
Cydnabod Gwasanaeth
Ar 12 Chwefror, cafwyd cyfle i ddiolch i Mrs Mary Nicholas am ei gwasanaeth fel organydd dros gyfnod maith yng Nghapel y Rhos ac yn amryw o gapeli eraill y bu yn aelod. Fe ddechreuodd ar y gwaith pan oedd 14 oed gan wneud cyfraniad gwerthfawr iawn. Er ei bod yn ymddeol o’r gwaith, fe fydd yn barod i helpu os digwydd y bydd angen cymorth.
Rydym yn hynod o ffodus fod gennym dri organydd sydd yn cyfoethogi’r addoliad.
Gwasanaeth Carolau
Ar 14 Rhagfyr, mwynhawyd Gwasanaeth Carolau yn y capel gyda Band Pres Beulah. Roedd y casgliad ar y noson yn £295 ac ychwanegwyd at y swm hwnnw o’r Gronfa Elusen ac anfon £500 i Tŷ Gobaith.