Codwyd Bethlehem yn 1897 fel cangen o eglwys Engedi. Yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn cafodd ei sefydlu yn eglwys ar wahân. Gwelwyd yn fuan iawn fod y capel yn rhy fychan ac ddyblwyd maint yr adeilad yn 1899. Fe barhaodd yr eglwys i dyfu hyd at ganol y tridegau pan yr oedd ychydig dros dri chant o aelodau. Daeth nifer fawr o bobl ifanc i Fae Colwyn i weithio o gefn gwlad gan ymaelodi ym Methlehem ac roedd y cyfnod cyn yr ail ryfel byd yn un hynod o lewyrchus.
Ychwanegwyd neuadd yn 1913 ac yma y cynhaliwyd perfformiadau gan gwmni drama’r capel, cyngherddau, eisteddfodau ac ati. Yn 1936, rhoddwyd defnydd o’r neuadd i’r di-waith. Roedd hefyd yn fan ymgynnull ar gyfer plant noddedigion Lerpwl yn 1939. Gwerthwyd y neuadd yn 1964 i gwmni gwerthu moduron.
Roedd swm y ddyled yn 1913 yn £2,525 ac, er mwyn gostwng maint y ddyled, chynhaliwyd ‘Grand Bazaar’ dros bedwar diwrnod ym mis Medi’r flwyddyn honno. Roedd y rhaglen a baratowyd yn 56 tudalen! Gwnaethpwyd elw o £771.12s.7c, oedd yn swm anferth yn nhermau heddiw.
Bu deuddeg o weinidogion yn gofalu am Fethlehem dros y blynyddoedd a gwerthfawrogwyd eu gwasanaeth. Fe ddywed rhai mai cyfnod y Parch James Humphreys (1932 – 37) oedd y cyfnod euraid – cyfnod y bwrlwm pan oedd ‘llond yr hen festri’ o ieuenctid yn cael gymaint o fwynhad ar y trafod fel ‘nad oedd neb yn poeni am y chwaraeon allai ddilyn’. Roedd y Parch R. R. Williams (Dr, yn ddiweddarach) awdur emyn 853 yn Caneuon Ffydd (Dywysog hedd, hoff Feddyg dynol ryw…….) yn weinidog ym Methlehem (1925 – 1931) a’r Parch R. J. Davies awdur emyn 788 (O Dduw ein Tad…..) yn weinidog ym Methlehem (1950 – 1977).
Bu dau frawd a chwaer o’r un teulu yn dal swydd ysgrifennydd yr eglwys o 1942 hyd i’r eglwys uno i greu Capel y Rhos – cyfnod o 63 mlynedd ar wahân i gyfnod byr yn niwedd y chwedegau. (Trefor Williams o 1942 i 1976; Gwyneth Evans o 1977 i 1995 a Ritchie Williams o 1995 i 2005).
Bellach mae adeilad Bethlehem wedi ei werthu i Gymdeithas Dai leol ac mae wedi cael ei addasu i fod yn gartrefi cysurus. Rhannwyd y capel yn dair uned gyda thair ystafell wely ym mhob un ac mae tri teulu wedi ymgartrefu yno.