Hermon

Codwyd y capel cyntaf ar y promenâd yn Llandrillo yn Rhos yn 1884. Er bod pethau wedi cychwyn yn addawol, roedd yr achos wedi mynd yn wan iawn erbyn 1893 pryd y gofynnodd y Cyfarfod Misol i Thomas Parry gymryd gofal bugeiliol yr eglwys. Roedd yr adeiladydd llwyddiannus wedi cael ei ordeinio’n weinidog ac yn rhoi ei wasanaeth yn wirfoddol i’r eglwys. Gan ei bod yn amlwg nad oedd y safle’n addas at y pwrpas, penderfynwyd y dylid codi capel mewn gwell safle. Gwerthwyd y capel gwreiddiol a chafwyd tir yn rhodd gan Syr George Cayley er mwyn adeiladu o’r newydd. Cafwyd llain o dir oedd ar gornel Ffordd Llannerch a Rhodfa Brompton. Asiant Syr George yng Ngogledd Cymru oedd yr uwchgapten Birch, cyfaill personol i Thomas Parry. Ar y llain tir adeiladwyd capel Hermon a’r ysgoldy am £4,136. 6s 4c, a hynny gan gynnwys yr organ! Dechreuodd y gwaith adeiladu yn 1903 a chysegrwyd y capel yn 1904.

Yn adroddiad 1914-1915 cyfeiria’r parch Thomas Parry at aelodau o’r eglwys oedd yn y lluoedd arfog fel hyn (geiriau gwreiddiol heb eu cywiro) :- “Er fod nifer fawr o’n dynion ieuainc wedi myned allan dros ei gwlad, i faes y frwydr fawr i’r front, eto, trwy drugaredd ein Duw y mae einioes pob un o honynt wedi cael amddiffyniad y Nefoedd hyd yr adeg yr ydym yn ysgrifennu hyn o lythyr : y mae yn rhaid fod rhyw Angel Gwarcheidiol yn castellu o’i hamgylch a’n gweddi fel Eglwys i’w ar iddynt oll gael dychwelyd adref i fynwes ei hanwyliad yn fyw, ac yn iach.” Ymddiswyddodd y Parch Thomas Parry yn 1922 ac yn ei le daeth y Parch R. Parry Jones.

Pan ddaeth y Parch R. Parry Jones i Hermon roedd yno 82 o aelodau ac o fewn blwyddyn cododd y rhif i 99. Adeg yr ail ryfel byd dyma ddywedodd y Parch R. Parry Jones yn adroddiad 1939 “Yr ydym yn byw mewn amseroedd enbyd iawn. Y mae’r byd ers misoedd bellach fel pair berwedig, a gwledydd cred ac anghred yn lladd eu gilydd, a Thywysog Tangnefedd yn wylo. …… Yr ydym yn meddwl llawer am y rhai sydd wedi mynd eisioes o’n plith ni : tri ar y môr, un yn Ffrainc, a’r gweddill yn y wlad hon, hyd yn hyn. Erfyniwn yn daer am i nawdd y Nef fod drostynt ………” Erbyn 1945 roedd 23 o aelodau’n gwasanaethu’i gwlad.Cafwyd cyfarfod croesawu’r milwyr yn ôl yn Chwefror 1946. Erbyn diwedd 1945 roedd yr eglwys wedi clirio’i dyled am yr adeiladau. Bu’r Parch R. Parry Jones yn weinidog Hermon tan 1949.

Gweinidogion Hermon rhwng 1950 a’r presennol:-

1950 – 1960   Parch Richard Emlyn Williams

1960 – 1975   Parch Griffith Aled Williams

1976 – 1983   Parch Thomas John Griffith

1988 – 1999   Parch Trefor Lewis

2000               Parch R. J. Owen Griffiths

Dathlwyd hanner canmlwyddiant yr achos yn Hermon ym mis Mai 1954.Rhwng 1960 a 1965 cafwyd 78 aelod newydd gan wneud yr aelodaeth yn 185. Erbyn 1966 roedd 207 o aelodau, gyda’r gorau a gafwyd yn Hermon. Ar ei ymddeoliad o’r ofalaeth yn 1983 dywedodd y Parch T. J. Griffith am Hermon:-“Dyma hanes eglwys Hermon er pan sefydlwyd hi, eglwys a llawer iawn o fynd a dod yn ei hanes, a hynny o bosibl oherwydd ei lleoliad. Eglwys a fu ar hyd y blynyddoedd a’i haelodau un ai yn newid “byd” neu’n newid “bro”, a digwyddodd llawer o hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf.”Yn 1996 ymunodd aelodau Capel Seion, Bae Colwyn Uchaf ag eglwys Hermon.

Ym mis Mai 2004 dathlwyd canmlwyddiant Hermon, yng nghwmni’r gweinidog y Parch R. J. Owen Griffiths a’i ragflaenydd y Parch Trefor Lewis, gydag aelodau, cyn aelodau a chyfeillion wedi ymgasglu ar gyfer y dathliadau.

Ble bu Hermon yn ei wisg o frics coch a ffenestri lliw arbennig, adeilad a wasanaethodd gymuned drwy’r ugeinfed ganrif, saif Capel y Rhos, adeilad cyfoes, pwrpasol a chyfeillgar i bobl ac amgylchedd, adeilad sy’n adlewyrchu’r unfed ganrif ar hugain.

(Gyda diolch arbennig i E. Roland Jones am gael defnyddio’i waith ymchwil o’r gyfrol “Hermon yn Dathlu Canmlwyddiant”)