Nasareth, Mochdre

Mae’n debyg bod yr achos ym Mochdre wedi ei gychwyn tua 1772  – yr achos cyntaf yn y cylch hwn. Codwyd adeilad – ‘y capel bach yn y pentref’ yn 1780. Agorwyd y capel ar y safle presennol ym mis Mawrth 1833 (er mai 1832 sydd wedi ei nodi ar y garreg ar flaen yr adeilad). Dywedir bod dros bedwar cant o lwythi o gerrig wedi eu cario i godi’r adeilad a hynny o bellter o ryw ddwy filltir. Yn 1890, cafwyd seddau newydd ac fe ailgynlluniwyd tu mewn yr adeilad gan y Parch Thomas Parry. Ychwanegwyd yr ysgoldy yn 1906.

Un o brif sylfaenwyr yr achos ym Mochdre oedd Thomas Hughes o Dan y Fron ger Llansannan. Crydd wrth ei alwedigaeth ac un o’r Cynghorwyr Methodistaidd cynnar. Mae sôn iddo bregethu yn y ‘Cilgwyn Mawr’ ym Mochdre yn 1771. Dechreuodd gynnal Ysgol Sul yn ei gartref, ‘Pen Ucha’ ac fe ddywed: ‘Tua’r flwyddyn 1780, codasom gapel bychan yn y pentref lle y cafwyd pregethu lled gyson ac yr achubwyd mi hyderaf lawer o eneidiau.’  Roedd ei ddylanwad yn yr ardal yn fawr, nid yn unig ym Mochdre ei hun.  Mae amryw o hanesion amdano yn pregethu mewn lleoedd cyhoeddus ac am yr erlid a’r ymosod a fu arno. Dywedir iddo fynd yn gyson ar y Suliau i Tywyn y Ferry (ar gyrion Deganwy) tua 1773/1774 lle ‘y byddai lluaws mawr yn ymgasglu at ei gilydd ar y Sabothau yn y lle y nodwyd i dreulio’r diwrnod mewn oferedd’. Er y gwrthwynebiad llwyddodd i gael dylanwad ar rai ac fe ddechreuwyd cynnal cyfarfodydd gweddïo mewn tŷ yno.

Cariwr oedd John Owens – un o ardal Rhuddlan yn wreiddiol. Roedd yn ddyn cryf ac yn bur enwog fel ymladdwr hyd nes iddo gael tröedigaeth. Mae’n debyg ei fod yn un o arweinwyr criw o ddynion oedd ar eu ffordd i erlid crefyddwyr. Y bwriad oedd dal y Parchedig Howell Davies o Sir Benfro oedd yn pregethu yn ardal Rhuddlan. Cawsant eu dal mewn storm ar y ffordd yno. Yn y storm honno, cafodd deimladau rhyfedd iawn ac fe glywodd lais yn ei argyhoeddi mai gŵr Duw oedd y pregethwr hwnnw. Daeth yn un o sylfaenwyr yr achos yn Mochdre.

Cyfrannodd eglwys Mochdre lawer i ddatblygiad eglwysi eraill y cylch. Trefnodd yr eglwys gangen-ysgol yn Tyn-y-ffordd – yma y cynhaliwyd y gwasanaeth ymneilltuol cyntaf yn nhref Bae Colwyn. Sefydlwyd y gangen-ysgol yng Nglan-y-môr ganddynt – yr achos hwn symudodd yn ddiweddarach i safle presennol Capel y Rhos. Roedd cangen arall o dan eu gofal yn ardal Bryn y Maen ac fe rannwyd y cyfrifoldeb am gangen arall yn y Morfa – yn agos i’r lle mae capel Pensarn heddiw. Cangen o eglwys Mochdre oedd eglwys Bryn Pydew hefyd, mae’n debyg.

Bu llawer tro ar fyd ers y cyfnod cynnar hwnnw. Bellach fe unodd cynulleidfa Nasareth yn rhan o’r eglwys newydd yng Nghapel y Rhos. Mae Nasareth ar werth ond ni wyddom eto, beth fydd yn digwydd i’r adeilad.