Parch Thomas Parry

(1844 – 1936)

 

Nid yw’n bosib sôn am gapel Hermon heb gydnabod cyfraniad cwbl arbennig y Parchedig Thomas Parry yn y cyfnod cynnar. Dyma grynodeb byr o’i hanes.

Fe’i ganwyd ym Mryn Tirion, Llangernyw ond collodd ei rieni pan oedd yn dair neu bedair oed. Fe’i magwyd yn Eglwysbach gan fynychu capel Bryndaionyn ac yn ddiweddarach bu’n byw yn Llandudno. Fe’i prentisiwyd i Abel Jones oedd â gweithdy yn Ivy Street, Bae Colwyn gan ddod, yn y man, yn fforman yn y gwaith.

Dechreuodd bregethu yn 1872 ac aeth i’r Unol Daleithiau yn yr hydref y flwyddyn honno a phregethodd mewn llawer o’r capeli yno, gan gynnwys yn Ohio.

Dychwelodd i Gymru yn 1874 gan sefydlu ei gwmni adeiladu ei hun gyda gweithdy yn Ffordd Llewelyn. Cychwynodd ffatri i wneud brics yng ngorllewin y dref a chododd res o dai ar gyfer y gweithwyr brics, sef y tai sy’n sefyll ar Ffordd Carlton. Yng nghyfrifiad 1881, cofnodir ei fod yn cyflogi 32 o ddynion a 2 fachgen. Yn y cyfnod yma, bu’n gyfrifol am godi tai yn Ffordd Conwy, Ffordd Llewelyn, Ffordd Penrhyn a Ffordd Hawarden.

Ordeiniwyd ef yn Weinidog yn 1893 ac fe ofynwyd iddo gymryd gofal o gapel Llandrillo yn Rhos. Adeiladwyd y capel hwnnw yn agos i lan y môr yn 1884 ac mae’n debyg bod Thomas Parry wedi rhoi rhai deunyddiau adeiladu at y gwaith hwnnw.

Pan benderfynwyd symud i’r safle bresennol mae’n debyg mai cyfeillgarwch Thomas Parry gyda Major Birch (asiant Stad Cayley) olygodd bod Syr G.E.A. Cayley wedi rhoi addewid o hanner erw o dir yn rhodd er mwyn codi’r capel. Roedd Thomas Parry hefyd wedi gwarantu’r ddyled ar godi’r capel yn ei enw ei hun. Ef oedd cynllunydd y capel ac ef oedd yn gyfrifol am y gwaith adeiladu. Thomas Parry bregethodd yn yr oedfa gyntaf pan agorwyd y capel ar Hydref 22, 1904.

Roedd hefyd yn amlwg ym mywyd y dref. Ef oedd cadeirydd cyntaf Bwrdd Lleol Bae Colwyn (1887 – 1890) a chadeirydd cyntaf y Cyngor (1895 – 1897). Ef oedd y cyntaf i dderbyn rhyddfraint y Fwrdeistref.  Cyfraniad arbennig arall oedd iddo fod yn gyfrifol am sicrhau system ddwr i dref Bae Colwyn. Roedd hefyd yn Ustus Heddwch

Nid Hermon oedd yr unig gapel y bu iddo fod yn gyfrifol am ei adeiladu. Dyma restr o’r capeli y credwn iddo fod yn gyfrifol am eu cynllunio ond mae’n bosib bod amryw o rai eraill. Byddem yn falch o glywed gan unrhyw un all ychwanegu at y rhestr hon.

Hermon, Bae Colwyn

Calfaria, Hen Golwyn

Capel Talybont, Dyffryn Conwy

Hyfrydle, Betws yn Rhos

Bethania, Eglwysbach

Gwynfa, Penyffordd, Ffynnongroyw

(Diolch i’r Cynghorydd John Hughes, Llangernyw am ei gymorth parod i baratoi’r cyfraniad hwn.)