Dyddiadur

MIS TACHWEDD 2020

MYFYRDOD SUL Y COFIO GAN EIN GWEINIDOG Y PARCH HELEN WYN JONES

Emyn.

Efengyl tangnefedd, O! rhed dros y byd,
a deled y bobloedd i’th lewyrch i gyd;
na foed neb heb wybod am gariad y groes,
a brodyr i’w gilydd fo dynion pob oes.

Eifion Wyn, 1867-1926.

Darlleniad Eseia 2:2-5

Rhodio ei ffyrdd ef.

Efallai fod rhai ohonoch wedi sylwi fod gwahanol fathau o flodau pabi  ar werth yn y cyfnod yn arwain at Sul y Cofio.  Deallwn fod gwerthiant y pabi yn anodd iawn eleni o dan yr amgylchiadau. Ceir gwahanol fathau;  rhai papur, rhai defnydd, rhai metal, a hyd yn oed rhai wedi gwau a gyda secwinau.  Bwriad y pabi coch wrth gwrs yw ein hatgoffa am fywydau milwyr a gollwyd mewn rhyfeloedd, o’r Rhyfel Byd Cyntaf hyd heddiw. Mae’r lliw coch yn cynrychioli’r gwaed a gollwyd, y du yn cynrychioli duwch rhyfel  a’r gwyrdd yn cynrychioli gobaith a bywyd. Mae rhai gwyn yn sefyll dros heddwch.

Fel Cymry Cymraeg rydym yn cofio brwydr Passchendaele drwy gyfrwng stori Ellis Humphrey Evans, neu Hedd Wyn, mab ffarm o ochrau Trawsfynydd, bardd, athro yn yr Ysgol Sul, a  dyn ei deulu a’i gymuned. Mae bywyd cynnar Hedd Wyn yn ymgorffori llawer o’r hyn y mae Eseia yn ei alw’n ‘ffyrdd Duw’ neu ‘bydd yn dysgu i ni ei ffyrdd, a byddwn ninnau’n rhodio yn ei lwybrau’.

O gyfnod ei blentyndod, roedd Hedd Wyn yn ymwybodol ei fod yn byw yng nghanol gogoniant byd natur, ac mae llawer o’i gerddi cynnar yn mynegi gwerthfawrogiad o gread ardderchog Duw. Roedd yn gwerthfawrogi tirlun ei fro, ond rhoddai werth hefyd ar ei deulu ac ar y gymuned o bobl oedd yn byw yno. Gallwn synhwyro o’r hyn a ysgrifennodd am fro ei fagwraeth yn y cyfnod hwnnw, fod yno gymuned glos lle’r oedd pobl yn rhoi gwerth ar berthyn, bod yn deyrngar, a gofalu am ei gilydd. Dyma yw ‘rhodio yn ei lwybrau’.

Yn y Beibl, shalom neu dangnefedd yw’r gair cyfoethog a ddefnyddir i ddisgrifio’r ‘rhodio’ yma. Mae’r gair yn golygu cymaint mwy na pheidio ag ymladd. Shalom yw byw mewn perthynas dda gyda’r Creawdwr a chyda cyd-ddyn, a byw yn iawn, ac yn llawn ym myd da Duw. Daeth Iesu Grist a heddwch y nef gydag ef. Gwelir yn ei ddysgeidiaeth, yn arbennig yn y Bregeth ar y Mynydd, ganllawiau pendant i’n helpu yn ein perthynas bersonol â’n cyd-ddyn. Boed i ni rodio yn ei lwybrau o heddwch.

Ganrif wedi marw Hedd Wyn, mae ei deulu yn dal i agor drws ei gartref yn yr Ysgwrn i ymwelwyr, gan ein gwahodd i glywed eu stori nhw, ac i uniaethu â’u profiad nhw o golled a galar. Ym mhob oes, mae rhyfel yn ymwneud â phobl go iawn nid ystadegau. Pobl o gig a gwaed yw milwyr sy’n dioddef ac yn marw ymhell o gartref, gan adael eu teuluoedd mewn hiraeth a galar ar eu hôl. Mae pob milwr a leddir yn fab neu’n ferch i rywun, yn ŵr neu’n wraig, yn dad neu’n fam. Beth bynnag yw eich barn- o blaid pabi coch neu babi gwyn, mae angen i ni estyn allan mewn tosturi at bobl sydd wedi colli anwyliaid o ganlyniad i ryfel, a’r rhai sydd yn byw heddiw mewn ofn dyddiol o achos effeithiau rhyfel. Boed i ni fel dynoliaeth ddysgu gwersi o ryfeloedd y gorffennol a rhoi heibio difa a dinistrio ein gilydd, er mwyn byw bywydau creadigol,  yn rhan o deulu dyn ar ddaear  Duw. Gobaith sicr Eseia yw ein bod ni’n dysgu ei ffyrdd ef ac yn rhodio yn ei lwybrau hyd byth.

Cyd-weddïwn Gweddi Sant Ffransis

Lle bo casineb, bydded cariad,
Lle bo anobaith, gobaith,
Lle bo amheuaeth, ffydd
Lle bo galar, cysur,
Lle bo tristwch,llawenydd-
Lle bo tywyllwch, bydded goleuni.

Efengyl tangnefedd, dos rhagot yn awr,
a doed dy gyfiawnder o’r nefoedd i lawr,
fel na byddo mwyach na dial na phoen
na chariad at ryfel, ond rhyfel yr Oen.

Er mwyn ei enw, ein Harglwydd Iesu Grist.

Amen

NEWID I DREFNIADAU ADDOLIAD O 4 HYDREF 2020 YMLAEN

Oherwydd y newidiadau ynglŷn â chyfyngiadau COVID19 a ddaeth i rym nos Iau 01/10/2020, penderfyniad y swyddogion oedd peidio â chynnal gwasanaethau yn y capel ar hyn o bryd.  Byddwn yn eich hysbysu pan fydd y trefniadau hyn yn newid.  Fe’ch gwahoddir i ymuno mewn addoliad Zoom yn unol â’r drefn a ddefnyddiwyd hyd yn ddiweddar.

Gan fod y Coronafeirws (COVID-19) yn gallu achosi symptomau difrifol mewn rhai pobl sydd â systemau imiwnedd gwan, roedd Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn cynghori na ddylid cynnal addoliad cyhoeddus. O ganlyniad i hyn, ac er mwyn diogelu iechyd ein haelodau a chyfeillion yng Nghapel y Rhos, ni chynhaliwyd unrhyw wasanaethau na chyfarfodydd pellach yn y capel rhwng mis Mawrth a mis Medi.

O fis Mehefin ymlaen buom yn cynnal oedfa bob bore Sul dros Zoom, gyda nifer gynyddol yn ymuno dros yr wythnosau. Cawsom gwmni capeli’r ofalaeth, capeli’r ardal yn undebol, cyfeillion o wahanol rannau o Gymru a thu hwnt, o Loegr a chyn belled ag Alsace yn Ffrainc. Ymunodd 50 o gartrefi â’i gilydd. Diolchwn i bawb sy wedi cyfrannu i wneud y gwasanaethau hyn mor fendithiol ac amrywiol.

Er gwaetha’r cyfyngiadau arnom ni i gyd mae gwaith yr eglwys wedi parhau ac yn sicr wedi ymestyn ac ehangu heb orfod poeni am ffiniau, boed rheiny o fewn pedair wal, gardd gefn neu bum milltir fel ag y bu am beth amser. Diolchwn i aelodau a chyfeillion am ofalu am ei gilydd a gofalu am eraill o fewn ein hardal, ein gwlad a’n byd. Rydym yn awyddus i barhau i fod yn gymdeithas ofalgar ac yn annog ein haelodau i gysylltu os oes angen unrhyw gymorth arnynt. Mae’r Gweinidog a nifer o aelodau yn barod i gynnig eu cymorth. Parhawn yn obeithiol ac yn ffyddiog a cherddwn ymlaen i’r dyfodol gyda hyder, ac yn sicr, gyda’n gilydd.

Yn dilyn asesiad risg llawn a manwl ar gyfer gofynion Eglwys Bresbyteraidd Cymru a Llywodraeth Cymru a chadw at reolau iechyd a diogelwch, o ddechrau mis Gorffennaf bu’r capel ar agor ar gyfer gweddi / myfyrdod bersonol bob bore dydd Gwener rhwng 10 a 12 o’r gloch. Cynhaliwyd tri gwasanaeth yn ystod mis Medi.

NEGES GAN EIN GWEINIDOG

Annwyl Gyfeillion

Gobeithio eich bod i gyd yn cadw’n iawn. Diolchaf am eich ymatebion a’ch negesuon bendithiol bob amser.  Boed i ni ddal i fugeilio ein gilydd yn ddiogel yn ystod yr cyfnod heriol hwn. Diolchaf i chi am eich gofal dros eich gilydd.

Teimlaf fod hi’n bwysig iawn i ni fel eglwys ddal i helpu yn y gymdeithas. Ers nifer o fisoedd bu canolfan Banc Bwyd Conwy yn Ffordd Las, Llandudno ac wrth gwrs yn dilyn y cyfyngiadau bu’n amhosibl mynd â rhoddion i’r ganolfan. Y newydd da yw fod canolfan unwaith eto gennym o fewn cyrraedd, yn Ffordd Rhiw, Bae Colwyn. Mae’r adeilad, sef Spyce Community Hub gyferbyn â Chapel Horeb ac ar agor o Ddydd Llun tan Ddydd Gwener rhwng 10 a 2 o’r gloch. Os am ofalu bod rhywun yno i dderbyn rhoddion gallwch ffonio ar 07305 197810. Ceir rhagor o wybodaeth ar eu gwefan www.sanctuarytrust.org.uk. Eglwys St Paul sy wedi cynnig y safle hwn i’r banc bwyd am y tri mis nesaf, felly pan ddaw unrhyw newid fe’ch hysbyswn ohono. Bu mis Gorffennaf yn fis prysur arall iddynt, dosbarthwyd 117 o barseli, 31 i deuluoedd efo 89 o blant, 8 i gyplau a 78 i bobl sengl. Mae staff y Banc Bwyd yn anfon eu diolch atom am bob rhodd rydym wedi ei chyfrannu dros y cyfnod argyfyngus hwn ac yn apelio am inni barhau i’w cefnogi

Mae’r gwasanaeth oedd ar gael yng Nghapel y Rhos, bellach wedi dirwyn i ben. Ond os ydych chi neu unrhyw un arall angen cymorth, gellir cysylltu gydag Elen a Mike Bohanna trwy’r wefan www.event-medical-cover.co.uk  Mae’r gwasanaeth yn cynnig cyngor, cymorth ynghylch siopa, cymorth ynghylch meddyginiaethau yn ogystal ag ymateb meddygol. Gwn fod llawer iawn wedi gweld y gwasanaeth yma’n gymorth mawr. Rydym yn awyddus iawn i rannu’r wybodaeth yma er mwyn i bawb wybod fod y gwasanaeth yn parhau. Rydym yn ddiolchgar am y gwasanaeth arbennig hwn.

Cymerwch ofal i gyd, a dwi’n siwr ein bod ni’n dal i feddwl ac yn anfon cofion at ein gilydd fel eglwys

Dewch i ni gyd adrodd gyda’n gilydd, Gras ein Harglwydd Iesu Grist a chariad Duw a chymdeithas yr Ysbryd Glân a fydd gyda ni oll o’r awr hon ac hyd byth. Amen.

Pob bendith
Eich Bugail a’ch Gweinidog. 
Helen Wyn Jones