Codwyd ein capel newydd yn 2008. Cynhaliwyd yr oedfa gyntaf o dan arwiniad ein Gweinidog, y Parchedig R. J. Owen Griffiths ar Fedi 14, 2008.
Cynhaliwyd oedfa arbennig i agor y capel yn swyddogol ar Hydref 12, 2008. Arweinwyd y gwasanaeth gan y Parchedig R. J. Owen Griffiths a chafwyd anerchiad gan lywydd y Gymdeithasfa, y Parchedig Gareth Edwards.
Nodwyd y digwyddiad gyda’r geiriau hyn:
Ar hen sail,wele heno,
Newydd fflam ei aelwyd O.
John Gruffydd Jones
Heddiw, yr aelwyd ddiddos a rannwn,
a’r un yw’r achos,
a’i air fydd eto’n aros
ar waith yng Nghapel y Rhos.
Tudur Dylan Jones
Mae llawer o nodweddion arbennig i’r adeilad gan gynnwys:
- Mae’r cyntedd eang yn ei gwneud yn haws i’r gynulleidfa i gymdeithasu ac yn gymorth i greu awyrgylch groesawgar.
- Tystia llawer bod yr addoldy ei hun yn gymorth i greu awyrgylch defosiynol.
- Ar flaen yr adeilad mae’r ffenestri sy’n ymestyn o’r llawr i’r nenfwd yn rhoi cymeriad i’r adeilad yn ogystal â rhoi digon o olau.
- Mae dwy o ffenestri lliw capel Hermon wedi eu gosod yn y wal sydd rhwng yr addoldy a’r cyntedd. Dyma ddolen werthfawr gyda’r gorffennol.
- Mae’r gwaith coed i gyd o dderw ac mae’r crefftwaith o safon uchel.
Pensaer
Cynlluniwyd yr adeilad gan y diweddar Mr Tom Griffiths. Tom oedd Llywydd Pwyllgor Adeiladau’r eglwys. Yn ogystal â chynllunio’r adeilad, ef reolodd y prosiect drwyddo. Roedd ei gyfraniad yn amhrisiadwy a’i arweiniad yn gadarn. Heb ei arbenigedd a’i frwdfrydedd, fyddai’r freuddwyd hon ddim wedi ei gwireddu.
Adeiladwyr
Cwmni Anwyl
Anwyl Construction Company Ltd
Anwyl House
Mona Terrace
Rhyl
LL18 4PH
Sut yr talwyd am yr adeilad
Gwerthwyd rhan o safle Capel Hermon i gwmni Anwyl ar gyfer codi bloc o fflatiau gan gadw rhan o’r safle ar gyfer codi’r capel newydd. Codwyd y capel newydd am werth yr arian gafwyd am y tir a werthwyd.
Derbyniwyd arian o Gronfa Strategaeth Henaduriaeth Dyffryn Conwy tuag at y gost o ddodrefnu’r capel.
Rhoddodd Mr Tom Griffiths ei waith yn gwbl ddi-dâl.