Mae aelodau Capel y Rhos yn cyfarfod mewn adeilad a agorwyd ym mis Medi 2008. Daeth capeli Bethlehem a Hermon, Bae Colwyn a Nasareth, Mochdre at ei gilydd i greu’r eglwys newydd.
Mae croeso cynnes ichi ymuno efo ni yn yr oedfa am 10.30 ar fore Sul.
Mae oedfa o’r capel yn cael ei darlledu’n fyw ar Zoom unwaith y mis ac yn fendith i’r rhai sy’n methu ymuno yn y capel. Rhowch wybod os ydych am dderbyn y manylion cysylltu.
Ceir manylion am y gwasanaethau a’r cyfarfodydd yn y Dyddiadur.
Mae Capel y Rhos yn bod er mwyn dathlu cariad Duw yng Nghrist a thystio iddo:
- mewn addoliad
- mewn gofal a gwasanaeth
- mewn cenhadaeth.
